Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Hystings Amaeth a Chefn Gwlad Etholaeth

June 12 @ 19:30 - 20:30

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog ynghylch diddymu’r Senedd, gydag Etholiad Cyffredinol i’w chynnal ar y 4ydd o Orffennaf, byddwch wedi derbyn llythyr gan ein Llywydd, Mr Ian Rickman, yn amlinellu gofynion allweddol Undeb Amaethwyr Cymru gan bwy bynnag fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf y DU, ynghyd â chopi o’n Maniffesto.

Bydd UAC yn cynnal hystings gyda Darpar Ymgeiswyr Seneddol yn ein siroedd ledled Cymru, a hoffwn eich gwahodd yn ffurfiol i gymryd rhan yn ein digwyddiad hystings ar gyfer etholaeth Bangor/Aberconwy yng Ngwesty’r Eryrod, Llanrwst ar nos Fercher y 12fed o Fehefin am 19:30.

Byddwn yn cynnal yr hystings hyn ar y cyd gyda NFU Cymru a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri er mwyn rhoi cyfle i ymgeiswyr ateb cwestiynau gan aelodau o sefydliadau amrywiol o fewn yr un diwydiant.

Edrychaf ymlaen at glywed gennych gan gobeithio’n fawr y byddwch yn gallu ymuno gyda ni ar gyfer ein hystings.

Yr eiddoch yn gywir,

Details

Date:
June 12
Time:
19:30 - 20:30
Event Category:

Venue

Eagles Hotel
Eagles Hotel, Ancaster Square,
Llanrwst, LL26 0LG
+ Google Map