Regenerating our Communities Event, CellB Blaenau Ffestiniog
April 11 @ 10:00 - 12:30
Bydd angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd yn sail ‘y cyntaf i’r felin’ gan fod ganddynt gapasiti cyfyngedig yn CellB.
Bydd y digwyddiad yn dilyn ymlaen o ddigwyddiadau Prifysgol Bangor gyda’r IWA dros y 3 blynedd diwethaf, ac mae’n cyd-fynd â’r digwyddiad ar berchnogaeth gymunedol a gynhaliwyd yn Nhŷ Gwyrddfai fis Mawrth diwethaf. Nod y digwyddiad yw dod â phobl ynghyd i drafod y syniadau, yr atebion a’r ffordd ymlaen i adfywio cymunedau’r gogledd. Rydym yn awyddus i gynnal dau banel gyda thrawstoriad o wleidyddion, academyddion, actifyddion cymunedol a’r rhai sy’n gweithio gyda chymunedau o wahanol safbwyntiau. Rydyn ni’n cynnig teitl pryfoclyd i danio’r ddadl – gyda’r llywodraeth ar waelod y ‘pyramid’, a chymunedau ar y brig. Bydd hyn yn arwain at drafodaeth ar gyllid, pŵer, dylanwad, adnoddau ac ati.
Agenda
9-30am Cofrestru a the/coffi
10yb Croeso gan Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, Prifysgol Bangor a chyflwyno’r gadair, Selwyn Williams (Cwmni Bro Ffestiniog)
10-05am Cyflwyniad a gosodiad golygfa gan Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor
10-15am Panel 1: Sut i fynd ati i adfywio ein cymunedau yng ngogledd Cymru?
Siaradwyr:
Liz Saville Roberts AS (Plaid Cymru)
Janet Finch-Saunders AS (Ceidwadwyr Cymreig)
Haydn Wyn Jones (Prif Swyddog, Cymunedoli)
Yr Athro Karel Williams (Prifysgol Manceinion)
Ceri Cunnington (Cwmni Bro Ffestiniog)
11am Panel 2: Sut i fynd ati i adfywio ein cymunedau yng ngogledd Cymru?
Siaradwyr:
Jack Sargeant MS (Llafur Cymru)
John Clark (Diwygio’r DU)
Dr Eifiona Thomas Lane (Prifysgol Bangor)
Elliw Williams (Pennaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu Rhanddeiliaid, Egino)
Iwan Trefor Jones (Prif Weithredwr, Adra)
11-45am Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa
12-30pm Nodyn i gloi gan y cadeirydd, Diolch gan Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol, Prifysgol Bangor, Digwyddiad yn cau